Job Description
Welsh Language Advisor - Cardiff Closing Date: 29/01/2025 Group: Corporate Group Management Level: Associate Job Type: Fixed Term (Fixed Term) Job Description: Bydd y rôl hon yn cau am 00:01 ar ddydd Mercher 29 Ionawr ac felly rydym yn eich cynghori i ymgeisio erbyn hanner nos ar ddydd Mawrth 28 Ionawr fan bellaf . Am sgwrs anffurfiol i drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach sydd gennych ynglŷn â’r rôl hon, mae croeso i chi gysylltu â Penodi ar 07385 502078. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i Penodi ar helopenodi.cymru . Gwybodaeth am Ofcom Ni yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU ac rydym yn gwneud gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy’n siapio sut byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. Rydym hefyd yn ymgymryd â’r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mae arnom angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau amrywiol ac wedi cael gwahanol brofiadau. Gwybodaeth am y tîm y byddwch chi’n rhan ohono Mae tîm Ofcom Cymru yn gweithio ar draws pob agwedd ar gylch gwaith Ofcom i gynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru yn Ofcom drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgynghori’n helaeth ledled Cymru, drwy wrando ar y rhai sy’n ein cynghori a drwy gynnal digwyddiadau. Rydym hefyd yn gwneud hyn drwy’r cysylltiadau rhagorol rydym yn eu cynnal ag amrywiaeth eang o gynghorwyr a rhanddeiliaid ar draws Llywodraethau, busnesau, y sector gwirfoddol, grwpiau defnyddwyr, academyddion, gwleidyddion a rhanddeiliaid polisi cyhoeddus yng Nghymru. Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith yng Nghymru, lle bo hynny’n berthnasol. Credwn fod ein dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn yr iaith o’u dewis. Pwrpas a hyd a lled y rôl Mae ein Hymgynghorwyr Gymraeg yn gydweithwyr aml-sgil sy’n rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg Ofcom. Maen nhw’n gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws Ofcom a’n gwasanaeth cyfieithu allanol i sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac allbwn cyfathrebiadau o fewn cwmpas yn cael eu cyfieithu a’u bod ar gael yn Gymraeg ar sianeli Ofcom. Gall hyn amrywio o reoli’r prosiect cyhoeddi ar gyfer dogfen fawr, gymhleth fel Adroddiad Blynyddol Ofcom i gyfieithu darnau byr o destun i’w cyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefan. Fe’ch cefnogir yn y rôl hon gan yr Uwch Reolwr y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydymffurfedd Ofcom â Safonau’r Gymraeg. Eich Prif Gyfrifoldebau Cynghori, rheoli a gweinyddu'r broses gyfieithu ar gyfer holl gyhoeddiadau Ofcom yn y Gymraeg o fewn amserlenni tynn. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i: Cynghori a chytuno ar ofynion cyfieithu ac amserlenni ar gyfer pob prosiect cyhoeddi gyda thîm perthnasol Ofcom a chyda'n gwasanaeth cyfieithu allanol. Cydlynu a rheoli'r broses o’r dechrau I’r diwedd ar gyfer pob prosiect cyfieithu, gan gydweithio â chyd-weithwyr mewnol a'r gwasanaeth cyfieithu allanol i ddilyn prosesau y cytunwyd arnynt ac i gyflawni o fewn y terfyn amser y cytunwyd arno. Rheoli nifer o brosiectau cyfieithu ar unrhyw un adeg, gan gadw grid cyfredol sy’n dangos yr hyn sydd i ddod, sydd ar y gweill a'r hyn sydd wedi'i gwblhau. Rheoli nifer o fersiynau o ddogfennau gyda'r gwasanaeth cyfieithu allanol, gan sicrhau bod newidiadau brys neu funud olaf yn cael eu hymgorffori pan fo angen. Prawf-ddarllen cyfieithiadau er cywirdeb. Gweithio gyda thimau a’r adran Gyllid i ddarparu rhagolygon cywir o gostau cyfieithu. Nodi tueddiadau a llwythi gwaith y dyfodol a chymryd camau priodol i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Nodi problemau a chyfleoedd yn y broses gyfieithu a gweithio gydag eraill i gymryd camau priodol. Cadw cofnod o’r cyfieithiadau sydd wedi'u cwblhau i'w harchwilio a'u hanfonebu. Cyfieithu cyhoeddiadau testun byr (hyd at 500 o eiriau) o Saesneg i Gymraeg yn gywir, yn gyflym ac yn rheolaidd. Cyhoeddi cynnwys wedi’i gyfieithu i wefan Gymraeg Ofcom, profi teithiau defnyddwyr a darparu sicrwydd ansawdd, pan fo angen. Cymeradwyo testun ar gyfer cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Monitro a gweithredu galwadau i'r llinell gymorth Gymraeg a chadw cofnodion cyfredol, pan fo angen. Cefnogi’r Uwch Reolwr y Gymraeg yn ei waith i sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg (“y Safonau”), yn ôl yr angen. Cynorthwyo gwaith Ofcom a’i dîm yng Nghymru drwy ymgymryd â phrosiectau ychwanegol, yn ôl yr angen. Er enghraifft, paratoi sleidiau ar gyfer cyflwyniadau dwyieithog neu drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i lwyddo Defnyddio sgiliau iaith: rhaid i chi fod yn defnyddio eich sgiliau ysgrifenedig, llafar, prawfddarllen a golygu rhagorol yn Gymraeg yn eich rôl bresennol. Defnyddio dylanwad: wedi cyfrannu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o bwysigrwydd galluogi pobl sy’n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg i wneud hynny mewn sefydliad cymhleth, a/neu sefydliad sydd â phencadlys yn y DU. Cyhoeddi cynnwys: profiad o baratoi a phrawfddarllen cynnwys yn Gymraeg i’w gyhoeddi ar wahanol lwyfannau o ddydd i ddydd. Er enghraifft cyhoeddiadau testun, tudalennau gwefan a chynnwys cyfryngau cymdeithasol. Rheoli rhanddeiliaid: profiad o reoli cyflenwyr allanol a chleientiaid mewnol yn gadarn mewn cysylltiad â nod cyffredin, gan gynnal perthynas gadarnhaol ar yr un pryd. Gweithredu Cynlluniau: gallu pennu a chyfleu blaenoriaethau a therfynau amser clir i chi eich hun ac i eraill, gan ddefnyddio adnoddau’n ddoeth i reoli nifer o brosiectau ar yr un pryd. Syniadau Arloesol: profiad o arloesi yn eich gwaith drwy syniadau creadigol a gwreiddiol sydd wedi gwella prosesau, polisïau neu wasanaethau. Cysoni gwaith: profiad o weithio’n effeithiol i ddarparu gwasanaeth i wahanol dimau, gan greu amgylchedd tîm onest a rhannu gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr. Croesawu newid: gallu dangos eich gallu i weld y darlun ehangach a sut rydych chi wedi bod yn hyblyg wrth wynebu newid. Datganiad Cynhwysiad Mae cynhwysiad wrth galon popeth a wnawn. Mae gan Ofcom genhadaeth clir: sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Er mwyn gallu cyflawni hyn, rydym am i’n sefydliad adlewyrchu’r amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, magwraeth a safbwyntiau sy’n bodoli ledled y DU. Ein nod yw recriwtio o’r gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr – ni waeth beth yw eich rhywedd, eich ethnigrwydd, eich anabledd, eich cyfeiriadedd rhywiol na’ch cefndir cymdeithasol. Pan fydd swyddi'n cael eu rhestru fel rhai llawn amser, rydym yn parhau i fod yn agored i lai o oriau, trefniadau rhan amser, rhannu swyddi a dewisiadau gweithio hyblyg eraill. O’r diwrnod cyntaf, rydym yn hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg i ddiwallu anghenion unigol. Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant – am ba reswm bynnag. Os ydych chi wedi cymryd amser i ffwrdd ac yn barod i ailymuno, edrychwn ymlaen at ddarllen eich cais. Mae ein prosesau recriwtio yn blaenoriaethu hygyrchedd a chynhwysiad. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych chi ddewisiadau penodol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn resourcingofcom.org.uk neu ffoniwch 0330 912 1378. A ninnau yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cynnig cyfweld unrhyw ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer ein rolau sy’n cael eu hysbysebu. Pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch roi gwybod i ni os hoffech i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun hwn (a elwir weithiau’n ‘gynllun sicrhau cyfweliad’). Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yma: https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/jobs/disability-confident-scheme Please note that this role will close at 00:01 on Wednesday 29th January and therefore we advise getting your application by no later than midnight on Tuesday 28th January. For an informal chat to discuss any further questions or queries you may have regarding this role, please feel free to contact Penodi on 07385 502078. If you are interested in applying for this role, please send your CV and cover letter to Penodi at hellopenodi.cymru . About the Team The Ofcom Wales team represents Ofcom in Wales and Wales within Ofcom. We work across all aspects of Ofcom’s remit to provide input and advice to Ofcom’s policy and project teams on the communications needs of people in Wales. We do this by consulting extensively across Wales, by listening to those who advise us and by holding events. We also do this through the excellent relationships we maintain with a diverse range of advisors&stakeholders across Governments, business, the voluntary sector, consumer groups, academics, politicians, and public policy stakeholders in Wales. Ofcom treats the Welsh and English languages equally in our work in Wales, where relevant. We believe our approach makes a positive contribution to the ability of Welsh speakers to engage with communications issues in their chosen language. Purpose of the Role Our Welsh Language Advisors are multi-skilled colleagues integral to the delivery of Ofcom’s Welsh language services. They work with colleagues across Ofcom and our external translation service to ensure that all publications and communications output in scope are translated and made available in Welsh on Ofcom’s channels. This can range from managing the publication project for a large, complex document such as Ofcom’s Annual Report to translating short pieces of text for on-the-day publication on our social media channels or website. You are supported in this role by the Senior Welsh Language Manager who is responsible for Ofcom’s compliance with its Welsh Language Standards. Your key responsibilities To effectively advise on, manage&administer the translation process for all Ofcom publications in the Welsh language to tight deadlines. This will include, but not be limited to: Advise on and agree the translation requirements and timescales for each publication project with the relevant Ofcom team and with our external translation service. Coordinate and manage the end-to-end process for each translation project, collaborating with internal colleagues and the external translation service to follow agreed processes and to deliver to the agreed deadline. Manage multiple translation projects at any one time, maintaining an up-to-date grid showing what is pending, in progress and what has been completed. Manage multiple versions of documents with the external translation service, ensuring urgent or last minute changes are incorporated when needed. Proof read translations for accuracy. Work with teams and Finance to deliver accurate translation costs forecasts Identify future trends and workloads and take appropriate action to make the best use of the available resources. Identify issues and opportunities in the translation process and work with others to take appropriate action. Maintain a log of completed translations for auditing and invoicing. Accurately, quickly&frequently translate short text publications from English to Welsh (up to 500 words). Publish translated content to Ofcom’s Welsh language website, test user journeys and provide quality assurance, when needed. Approve text for social media content. Monitor and action calls to the Welsh Language helpline and maintain up to date records, when needed. Support the Senior Welsh Language Manager in their work to ensure Ofcom’s compliance with Welsh language legislation (“The Standards”), as and when required. Support Ofcom’s work and its team in Wales by taking on additional projects, as and when needed. For example, preparing slides for bilingual presentations or organising simultaneous translation for public events. The skills, knowledge and experience you will need for success Utilising language skills: must be using in your current role your excellent written, oral, proof reading and editing skills in Welsh. Channelling influence: have brought to a complex, and/or UK headquartered organisation, an understanding and appreciation of the importance of enabling people who wish to, to communicate in Welsh. Content publishing: experienced in preparing and proof reading content in Welsh for publication on different platforms at pace on a daily basis. For example, text publications, website pages and social media. Stakeholder management: have assertively managed both external suppliers and internal clients around a shared goal whilst maintaining positive relationships. Executing Plans: adept at setting and communicating clear priorities and deadlines for yourself and for others utilising resources wisely to manage multiple projects simultaneously. Trailblazing Ideas: have brought innovation to your work through creative and original ideas that have improved processes, policies, or services. Harmonising work: experience of working effectively to provide a service to different teams, creating an honest team environment and sharing valuable information and resources. Embracing change: can demonstrate your ability to see the bigger picture and how you have remained flexible in the face of change Ofcom has a clear mission: to make communications work for everyone. To be able to deliver on this, we want our organisation to reflect the diversity of background, experience, upbringing and thought that exists across the UK. We aim to recruit from the widest pool of candidates possible – no matter your social background, ethnicity, sexual orientation, gender or disability. Where positions are listed as full-time, we remain open to reduced hours, part-time arrangements, job shares, and other flexible working options. From day one, we champion flexible work arrangements to accommodate individual needs. We also warmly welcome applicants who are returning to the workforce after a break – for whatever reason. If you have taken time away and are ready to rejoin, we look forward to reviewing your application. Our recruitment processes prioritise accessibility and inclusivity. If you need information in an alternative format or have specific preferences, please contact our recruitment team at resourcingofcom.org.uk or call 0330 912 1378. As a Disability Confident employer, we offer interviews to disabled applicants who meet essential criteria for advertised roles. Learn more about this scheme here. https://careers.ofcom.org.uk/careers/how-we-hire/